Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
HEB 13
Y Bil Addysg Uwch (Cymru) – Cyfnod 1 |
Tystiolaeth gan : Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Gair am y Comisiynydd
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn hyrwyddwr dros bobl hŷn ledled Cymru. Mae’n eu cefnogi ac yn siarad ar eu rhan. Mae’n gweithio i sicrhau bod y rheini sy’n agored i niwed ac mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn sicrhau bod gan bobl hŷn lais sy’n cael gwrandawiad, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n ynysig ac nad oes pobl eraill yn gwahaniaethu yn eu herbyn a’u bod yn cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei ysgogi gan yr hyn y mae pobl hŷn yn dweud sydd bwysicaf iddyn nhw ac mae eu lleisiau wrth wraidd popeth a wna. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn lle da i fynd yn hŷn ynddo – nid dim ond i rai ond i bawb.
Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn:
· Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
|
· Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. |
|
· Yn annog yr arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru. |
|
· Yn adolygu’r deddfau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
Ymchwiliad i’r Bil Addysg Uwch (Cymru)
1. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru croesawaf y cyfle i ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Bil Addysg Uwch (Cymru)[1].
2. Yn hytrach nag ymateb i’r cwestiynau fel y’u hamlinellir yn y ddogfen ymgynghori, rhoddaf sylwadau ehangach ar agweddau penodol ar y Bil.
3. Croesawaf yn benodol bwyslais y Bil ar gadw ffocws cadarn ar fynediad teg i addysg uwch. Dylai pobl hŷn gael yr un cyfleoedd i gael mynediad i addysg uwch â phawb arall. Croesewir yn fawr felly’r nod o gyflawni hyn drwy fynnu bod yr holl ddarparwyr addysg uwch, y mae eu cyrsiau wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr, yn ymrwymo i weithgaredd i gefnogi mynediad cyfartal i addysg uwch. Mae’n datblygu oddi wrth Ddeddf Cydraddoldeb 2010[2], gan roi i bobl hŷn sy’n ceisio mynediad i addysg uwch amddiffyniad pellach rhag gwahaniaethu.
4. Ceir bron 800,000 o bobl 60 oed a drosodd yng Nghymru. Yn yr ugain mlynedd nesaf, disgwylir i’r ffigur hwn fod dros 1 filiwn. Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac, o roi iddynt gefnogaeth ddigonol a seilwaith addas sy’n cynnwys mynediad i addysg a dysgu gydol oes, gallant gyfrannu llawer iawn i’r gymdeithas ac i’r economi.
5. Mae mynediad i addysg yn hanfodol i bobl hŷn am sawl rheswm. Gyda nifer gynyddol o bobl hŷn yn methu â fforddio ymddeol ac angen gweithio’n hwy, mae cyfleoedd addysg uwch ac addysg bellach yn hanfodol er mwyn i bobl hŷn wella’u sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd. Bydd hyn yn eu galluogi i aros yn y farchnad lafur neu ddychwelyd iddi a gwella’u cyflogadwyedd. Mae’r angen i ddeall technolegau modern, cyrchu gwybodaeth a chyngor drwy ddysgu digidol a moderneiddio arferion gweithio yn hanfodol.
6. I bobl hŷn eraill, mae mynediad i addysg yn allweddol i’w hiechyd, i’w hannibyniaeth a’u lles yn ddiweddarach yn eu hoes. Fel yr amlinellais yn fy adroddiad ‘Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru’[3], mae dysgu nid yn unig yn gwneud pobl hŷn yn weithwyr neu’n wirfoddolwyr mwy effeithlon, ond mae hefyd yn hyrwyddo cyfranogaeth economaidd neu gymdeithasol lawn, yn cefnogi creadigrwydd, arloesi a boddhad, ac yn lleddfu unigrwydd, unigedd ac iselder. Mae dosbarthiadau dysgu, p’un a gânt eu cynnal mewn prifysgolion neu mewn lleoliadau eraill, yn darparu i bobl hŷn hyder, pwrpas a phleser ac, fel rwyf wedi’i glywed yn aml wrth i mi sgwrsio gyda phobl hŷn ledled Cymru, maent yn rhywbeth y maent yn edrych ymlaen atynt.
7. Mae dysgu ar gyfer cyflogaeth a lles yn bwysig dros ben i bobl hŷn ac, fel ‘grŵp nad oes ganddo gynrychiolaeth deg’ fel yr amlinellir yn y Bil, croesawaf bob ymdrech i annog pobl hŷn i gofrestru ar gyrsiau prifysgol fel myfyrwyr hŷn a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir drwy’r Brifysgol Agored. Gall pobl hŷn gyfrannu llawer i brifysgolion, y tu mewn a’r tu allan i’r dosbarth, a gallant ysbrydoli, cynghori a gweithio gyda myfyrwyr iau. Oherwydd eu cyfoeth o wybodaeth a’u profiadau o fywyd a gwaith, ni ddylid bwrw amcan rhy isel o werth myfyrwyr hŷn mewn prifysgolion.
8. Gan fwrw’r Bil yn ei flaen, rwy’n annog Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i dargedu myfyrwyr hŷn posibl, eu hannog i ddilyn cyrsiau prifysgol drwy roi gwybodaeth a chymhellion, a hyrwyddo cyflawniadau dysgwyr hŷn cymaint â phosibl[4]. Dim ond 1.8% o’r holl fyfyrwyr yn 2012/13 oedd dros 60 oed[5], rhaid gwneud pob ymdrech i gynyddu niferoedd y myfyrwyr hŷn sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch Cymru.
9. Gyda chost tybiedig astudio’n cael ei ystyried yn rhwystr posibl rhag dysgu, mae angen i ddysgwyr hŷn dros 60 oed gael mynediad i wybodaeth gywir a dibynadwy ar sut i gael benthyciad ar gyfer ffioedd dysgu ac ymgeisio am grant cymorth arbennig[6]. Dylai dysgwyr hŷn gael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y cymorth ariannol a roddir i fyfyrwyr yng Nghymru, strwythur cymorth sy’n gwneud yn dda o’i gymharu â gweddill y DU[7].
Pecyn Sgiliau Sylfaenol
10. Cyfarfûm gyda’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn ddiweddar gan bwysleisio pwysigrwydd Pecyn Sgiliau Sylfaenol sy’n rhoi sylw i’r nifer gynyddol o bobl hŷn nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs), ac y mae arnynt angen cyfleoedd dysgu i feithrin sgiliau newydd neu gryfhau’r set sgiliau sydd ganddynt eisoes i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i’r farchnad lafur.
11. Amcangyfrifir bod tair gwaith yn fwy o NEETs dros 50 oed i’w cael ag sydd o rai 25 oed, ynghyd â deg gwaith yn fwy na rhai dan 19 oed. Mae gan addysg uwch ran bwysig i’w chwarae i leihau nifer y NEETs hŷn a rhaid i unrhyw Becyn Sgiliau Sylfaenol a gaiff ei lunio i bobl hŷn yng Nghymru gynnwys yr holl Sefydliadau Addysg Uwch yn llawn.
Sylwadau cloi
12. Mae dysgu gydol oes yn bwysig dros ben a phwysleisiaf nad ydych byth yn rhy hen i ddysgu: dylai dysgu wirioneddol fod gydol eich oes. Nid tiriogaeth pobl ifanc yn unig ydy addysg uwch ac rwy’n llwyr gefnogi amcan y Bil o ehangu mynediad i bawb, yn enwedig i bobl hŷn. Ar adeg pan mae cyllid ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru yn peri pryder gwirioneddol[8], mae angen i batrymau gweithio ac addysgol newidiol fod yn hyblyg, yn barod i addasu a rhoi ystyriaeth lawn i anghenion penodol dysgwyr hŷn.
13. Dylai’r ffaith bod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio gael ei hystyried fel rhywbeth cadarnhaol ac, o roi cymorth a chyfleoedd digonol iddynt, gall pobl hŷn gyfrannu llawer mwy at ein cymunedau a’r economi ehangach. Ac ystyried bod pobl hŷn wedi cael eu cyfrif fel lleiafrif sydd wedi’u hesgeuluso yn y gorffennol, bydd angen i systemau’r dyfodol ddeall yn well anghenion pobl hŷn ym maes sgiliau ac addysg i oedolion.
14. Edrychaf ymlaen at weld adroddiad yr Ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi a byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chwaraewyr allweddol eraill i sicrhau bod y Bil a’r ddeddfwriaethategol, sbardunau polisïau a strategaethau’n darparu i bobl hŷn fynediad cyfartal i bob math o gyfleoedd dysgu gydol oes amser llawn a rhan amser, gan gynnwys addysg uwch.
[3]http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.sflb.ashx
[4] http://www.theguardian.com/higher-education-network/blog/2013/mar/11/older-learners-studying-university-david-willetts
[5] https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Higher-Education/Students/Enrolments-at-Welsh-HEIs/HEEnrolmentsAtWelshHEIs-by-Gender-Age-Level-Mode